SL(5)130 – Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig)
Cefndir a Phwrpas
Dyma’r ail Orchymyn sy’n dynodi cyrff penodedig mewn perthynas â Gweinidogion Cymru at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllidebol yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.
Gweithdrefn
Negyddol.
Craffu Technegol
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Craffu ar rinweddau
Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn, sef bod gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ddewis o dan adrannau 126A(9) a 126A(10) ar y weithdrefn i’w dilyn, a dewiswyd y weithdrefn negyddol. Mae’r weithdrefn honno i’w gweld yn briodol (Rheol Sefydlog 21.3(ii)).
Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Ymateb y Llywodraeth
Nid oes angen ymateb gan y llywodraeth.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
11 Hydref 2017